Sylwadau Telynorion

Glenda Clwyd
“Llongyfarchiadau i gwmni Telynau Teifi am ddod a safon a chywreinrwydd yn ôl i fyd y delyn Geltaidd. Dwi'n canu'r Wennol yn ddyddiol adref ac yn gyhoeddus ac mae'n braf cael telyn sydd nid yn unig yn ddel ei golwg ond sydd a 'gafael' ynddi hefyd. Dyma'r sain hyfrytaf a chynhesaf gefais i erioed allan o delyn fach. Nid yn unig yn bleser i'w chanu, mae hi hefyd wedi fy ysbrydoli i ail afael ar gyfansoddi - Diolch yn Fawr!”
Glenda Clwyd

 

Patricia Daly

“Mae gan offerynnau Telynau Teifi ansawdd sain fendigedig, yn felys ac yn ddofn, mae ganddynt lais sy’n swynol a hudol. Does dim ychwaith rhaid aros ar restr hirfaith am delyn o waith llaw - mae Telynau Teifi yn cynhyrchu offerynnau hyfryd o fewn 4 - 6 wythnos, ac meant yn gwmni sy’n parchu ac yn gofalu am eu cwsmeriaid. Mae’r telynau yn fyw ac yn adlewyrchu enaid y perfformiwr; mae agosatrwydd tyner yn datblygu’n gyflym rhwng y Delyn a’r perfformiwr, mae’n rhaid perchen ar Telyn Teifi!” Patricia Daly

Harriet Earis
“Cefais syndod wrth imi ganu “Telyn Teifi” am y tro cyntaf! Dw’i erioed wedi canu telyn Geltaidd sy’n cymharu â’r sain cyfoethog. Maent yn offerynnau anhygoel sydd wedi eu hadeiladu gyda chrefftwaith o’r radd flaenaf, ac mae’n braf i weld telynau o Gymru’n arwain ar y llwyfan rhyngwladol unwaith eto. Dylai telynorion i gyd rhoi cynnig i ganu un!”

Harriet Earis

Danielle PerrettDanielle Perrett : Un o delynoresau mwyaf blaenllaw Lloegr, mae hi’n enwog am ei datganiadau ar delynau ddi-bedal:

www.danielleperrett.co.uk


"Mae gan Telynau Teifi y sain fwyaf cyfoethog posib! Mae’n rhaid i chi wrando arnynt er mwyn deall y gwahaniaeth rhwng eu telyn Eos nhw a thelyn llafnau cyffredin. Mae hwn oherwydd bod ganddynt seinfwrdd ANFERTH a llawn, gyda thannau hir a thynn. Maent yn offerynnau cadarn sy’n edrych yn dda, gyda thannau coludd yn ogystal â llafnau cywir wedi eu cynllunio yr un fath a mecanwaith y delyn bedal yn hytrach nag bachau. Nid yn unig mae’r telynau yn cael ei gwerthu am bris cystadleuol, ond meant yn hynod o addas i unrhyw un sydd am symud i’r Delyn Gyngerdd neu i gerddorion proffesiynol sydd angen sain fawr a chyfoethog o’u telynau."

Steffan Thomas

Steffan Thomas, Telynor ar y deires yw Steffan, ac fe enillodd wobr goffa John Weston Thomas yn 2005. Gwobrwywyd ef a thelyn Eos fel y wobr gyntaf a’i noddir gan Telynau Teifi:

“Rwyf ond yn canu’r Delyn deires fel arfer, ond ar ôl ennill Telyn Geltaidd yr Eos, rwyf wedi cael y cyfle i arbrofi mewn sawl arddull gwahanol o berfformio. Mae Telynau Teifi yn offerynnau arbennig iawn, ac nid ond o achos eu bod wedi eu hadeiladu yng Nghymru! Canlyniad o’r dechnoleg unigryw a’i defnyddir gan y cwmni yw telynau o’r safon uchaf. Maent yn cynhyrchu sain anhygoel am offeryn o’u maint."

Objective 1 Logo