Polisi Preifatrwydd
Lluniwyd Polisi Preifatrwydd Telynau Teifi Cyf, er mwyn eich helpu i ddeall sut y byddwn yn casglu a defnyddio'r wybodaeth bersonol y byddwch chi'n ei darparu i ni.
Pa wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu?
- Gallech ddarparu dau fath o wybodaeth pan fyddwch yn ymweld â TelynauTeifi.co.uk.
- Gwybodaeth bersonol y byddwch yn ei datgelu o'ch gwirfodd, ac a gesglir fesul unigolyn, a Gwybodaeth, a gesglir yn grynodol, am sut y byddwch chi, ac eraill, yn pori gwefan TelynauTeifi.co.uk.
Gwybodaeth E-bost
Os byddwch yn cysylltu â ni trwy e-bost, gallem gadw cynnwys eich negeseuon e-bost, ynghyd â'ch cyfeiriad e-bost a'n hymateb.
Gwybodaeth am ddefnyddio'r Wefan
Bob tro y byd rhywun yn cyrchu TelynauTeifi.co.uk bydd y gweinydd yn cofnodi gwybodaeth am system weithredu'r person hwnnw, math a fersiwn y porwr, cydraniad y sgrin, yr amser a gymerir ar bob tudalen, ac ati. Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol wrth wneud hyn. Caiff y wybodaeth hon ei dadansoddi er mwyn gwella'n gwefan a'n strategaeth farchnata ar-lein.
Sut y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei darparu?
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol dim ond i ddibenion gweinyddu'r wefan hon.
Defnyddio cwcis
Nid yw TelynauTeifi.co.uk yn defnyddio'r dechnoleg hon.
Rhannu Gwybodaeth â Thrydydd Partïon
Nid ydym yn rhannu e-bost na gwybodaeth arall gyda thrydydd partïon.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â Telynau Teifi Cyf. ar 01559 363 222 am wybodaeth bellach.
