Telynau Teifi Siop y Delyn

Telyn Geltaidd yr Eos

Telyn Geltaidd yr Eos
Cynlluniwyd yr Eos er mwyn ymateb i anghenion telynorion, i rhoi sain enfawr a gloyw, ynghyd â sefydlogrwydd ystrwythurol. Gyda'r un gofod rhwng y tannau ag sydd i delyn gyngerdd, a'r un tynder i'r tannau hefyd, mae'r Eos yn berffaith ar gyfer telynorion sy'n dymuno cael ansawdd sain y delyn bedal a hwylustod y delyn lifer am llai nag trydydd pris telyn bedal sylfaennol.

Mae blynyddoedd o ymchwil a datblygu wedi perffeithio'n mecanwaith hanner tôn chwyldroadol. Yn aml, gall llafnau a liferi traddodiadol lleddfu swn y tannau ac arwain at golli sain y delyn. Mae ein dyfais ni fodd bynnag yn cadw traw perffaith tra'n cadw cyseiniant y tant. Dyma un enghraifft yn unig o'r dulliau newydd ryn ni'n eu cyflwyno i faes cynhyrchu telynau.

Fel yr aderyn hwnnw sy'n enwog am ei bersain, mae'r Eos yn llawn haeddu'r enw gan ei fod yn 'canu'n ogoneddus.

Manylion yr Eos
Uchder : 51¾ modfedd (1315mm)
Lled y seinfwrdd : 16 modfedd (410mm)
Lled y gwaelod : 17¼ modfedd (440mm)
Lled mwyaf : 30½ modfedd (775mm)
Tannau: 36 C wythfed 1 i C wythfed 6 C
Pwysau: 15kg (34 pwys)

Telyn Geltaidd yr Eos: £2,695.00 (yn cynnwys TAW)
(Mae Darpariaeth O Orchudd Llwch Ag Allwedd Tiwnio Gyda Phob Telyn)

Pecyn Telyn Geltaidd yr Eos: £2,850.00 (yn cynnwys TAW)
(Yn Cynnwys Allwedd Tiwnio Ychwanegol & Gwain, Cyfrwy A Stol)

Mae gwaran dwy flynedd yn gynwysiedig gyda'r delyn hon

Cludiant Y Delyn O Fewn Prydain Ag Iwerddon £100.00

Opsiynau yr Eos
  

Telyn Geltaidd yr Eos