Telynau Teifi Siop y Delyn

Cyfarpar Poblogaidd

Thumbnail
Chi mi na Mor-bheanna

* Fe gewch chi gasglu'ch telyn o Landysul ar ddyddiad penodol, neu fe allwn ni drefnu ei chludo atoch. Bydd cost pacio ac anfon y delyn yn dibynnu ar lle bydd angen i ni ei hanfon, ond fe allwn ni gadarnhau hyn gyda chi o flaen llaw.

Canolfan Werthu Telynau Teifi, Llandysul:

Dewch i'n canolfan werthu yn Llandysul, lle byddwn ni wrth ein bodd i'ch dangos chi o gwmpas ac esbonio proses gynhyrchu'n telynau. Fe allwch chi eistedd yn ein stiwdio a threulio faint bynnag o amser a fynnwch chi yn canu a gwrando ar ein telynau. Bydd ein staff profiadol yn gallu rhoi pob sylw i chi ac ateb unrhyw gwestiwn fydd gyda chi. Bwriad Telynau Teifi yw eich cynorthwyo chi i ddewis yr offeryn gorau posib i chi.

Mae'n canolfan werthu ar agor o 9.00am tan 5.00pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Os oes angen, fe allwn ni drefnu eich croesawu chi yma ar y penwythnos, ond fe fyddwn ni ar gau ar gyfer pob Gwyl y Banc.

Siopau Cerdd:

Ryn ni'n hoffi dod i nabod y bobol sy'n prynu'n telynau, felly ryn ni wastad yn annog pobol i ymweld â'n Canolfan Werthu yn Llandysul - mae hyn o fudd mawr wrth i ni ddatblygu gwasanaeth cwsmeriaid da. Hefyd dim ond yn ein canolfan yn Llandysul mae ystod cyfan ein hofferynnau. Ond os nad yw hi'n bosib i chi ymweld â ni yn Llandysul, yna mae ein telynau hefyd ar werth yn Pencerdd ym Mhenarth neu Cerdd Ystwyth yn Aberystwyth. Mae'r siopau arbenigol hyn hefyd yn cadw ystod eang iawn o offerynnau eraill, cyfarpar atodol a cherddoriaeth.

Gwyliau a digwyddiadau:

Mae Telynau Teifi yn arddangos yn gyson mewn eisteddfodau a gwyliau, ac mi fyddwn ni'n cynyddu'n gweithgareddau yn 2007. Cadwch lygad ar ein tudalennau digwyddiadau - hwyrach y gallech chi ymweld â ni ar un o'r achlysuron hyn. Bydd wastad cyfle i brynu'n cynnyrch yn y digwyddiadau hyn.

Dulliau eraill:

Mewn amgylchiadau arbennig, gall ein Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata drefnu cwrdd â chwsmeriaid newydd mewn man sy'n gyfleus iddyn nhw. Mae hyn yn dibynnu ar bellter, cost a pha mor ymarferol fydd hi i'ch cyrraedd chi. Ond gan fod Telynau Teifi yn dymuno gwneud ein gorau glas i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, mi wnawn ni bob ymdrech i ateb eich cais.

Gallwch gysylltu â'n Cydlynydd Gwerthiant a Marchnata ar 01559 363222 neu trwy ebost ar info@telynauteifi.co.uk.