Sut mae hurio'n Telynau Sut mae hurio'n Telynau


Os hoffech chi brofi un o'n telynau cyn i chi brynu, fe allech chi ddewis rhentu telyn. Mae ein telynau ar gael i'w rhentu yn y Deyrnas Gyfunol. Byddwn yn gofyn am ernes o £100, a gall taliadau hurio gael eu cyfrif yn erbyn cost prynu unrhyw delyn gan Telynau Teifi.

 

 

Cynllun Hurio Telynau Celtaidd a Werin Telynau Teifi
3 12 2008

Eos a Gwennol
Cost Rhentu Misol
Yswiriant Misol
TAW
Taliad Misol Llawn
Ernes
 
£31.72
£2.73
£5.55
£40.00
£100.00
  • Rhaid talu'r gost hurio o flaen llaw
  • Un taliad yn unig yw'r ernes, i'w dalu cyn dechrau'r cyfnod hurio.
  • Telir yr ernes yn ôl ar ddiwedd y cyfnod hurio ar yr amod bod y delyn yn cael ei dychwelyd mewn pryd a heb ei ddifrodi.
  • Pan brynir y delyn sydd wedi ei hurio, gallwch ddefnyddio'ch taliadau hurio fel credyd yn erbyn y pris cyfredol (gweler y cytundeb hurio am fanylion llawn)

Rhaid talu'r rhent misol o flaen llaw. Un taliad yn unig yw'r ernes, i'w dalu cyn dechrau'r cyfnod hurio. Telir yr ernes yn ôl ar ddiwedd y cyfnod hiro ar yr amod bod y delyn yn cael ei dychwelyd mewn pryd a heb ei difrodi. Pan brynir y delyn sydd wedi ei rhentu, gallwch ddefnyddio'ch taliadau rhent fel credyd yn erbyn y pris prynu cyfredol (gweler y cytundeb rhentu am fanylion llawn).

Cytundeb Hurio

Cytuna Telynau Teifi i hurio telyn rhif .............. i

Enw (yr Huriwr)
Cyfeiriad

I'w ddefnyddio gan yr Huriwr ac Enw(au)

Ffôn:

E-bost:

Yn unol â'r telerau isod:

1. Y cyfnod hurio yw xx mis, i ddod i ben ar 00/00/00. Noder mai'r cyfnod hurio lleiaf yw 6 mis.

2. Caiff y delyn ei hyswirio gan Telynau Teifi. Mae'r Huriwr yn ymgymryd i ofalu am y delyn, i'w chadw mewn amodau priodol, ac i'w chludo â gofal. Os collir neu ddifrodir y delyn, mae'r Huriwr yn ymgymryd i hysbysu Telynau Teifi ar unwaith drwy'r ffôn neu ebost. Dim ond Telynau Teifi gaiff drwsio neu wasanaethu'r delyn.

3. Cedwir y delyn fel arfer gan yr Huriwr yn y cyfeiriad ar y Cytundeb hwn. Rhaid i'r Huriwr hysbysu Telynau Teifi os yw'r delyn i'w chadw mewn unrhyw leoliad arall.

4. Yr Huriwr sy'n gyfrifol am gasglu'r delyn ar gychwyn y cyfnod hurio, ac am ddychwelyd y delyn i Telynau Teifi yn Llandysul heb fod yn hwyrach na diwrnod ola'r cyfnod hurio. O ddychwelyd y delyn yn hwyr, tynnir swm o'r ernes a roddir yn ôl, a'r Huriwr fydd yn gyfrifol am unrhyw gostau a wyneba Telynau Teifi er mwyn adfeddiannu'r delyn.

5. Yr Huriwr sy'n gyfrifol am ailosod unrhyw dannau sy'n torri neu'n cael eu difrodi. Dylid cael y tannau oddi wrth Telynau Teifi.

6. Bydd yr Huriwr yn talu ernes o £100 i Telynau Teifi cyn cychwyn y cyfnod hurio. Rhoddir yr ernes yn ôl ar ddiwedd y cyfnod hurio os dychwelir y delyn yn brydlon a heb ei difrodi.

7. Cost hurio fydd £40.00 y mis (yn cynnwys TAW ac yswiriant), i'w dalu o flaen llaw. Bydd yr Huriwr yn trefnu Archeb Banc ar gyfer taliadau misol.

8. Mae gan Telynau Teifi yr hawl i addasu pris llog y delyn os dymunai'r huriwr estyn neu barhau gyda llogi'r delyn ar ol dyddiad terfyn y cytundeb hwn.

9. Gall yr Huriwr brynu’r delyn cyn diwedd y cyfnod hurio am bris gwerthu cyfredol y delyn ar adeg prynu. Caiff cyfran o’r gost hurio ei ddefnyddio yn erbyn y pris fel a ganlyn:

100 % o’r gost hurio a’i dalwyd os telir y pris prynu o fewn 6 mis o gychwyn y cyfnod hurio.

Ni chaiff dim o’r gost hurio a’i dalwyd ei ddefnyddio yn erbyn y pris prynu ar ôl 6 mis o gychwyn y cyfnod hurio.

10. Ni chaiff yr Huriwr ddefnyddio’r delyn ar gyfer pwrpasau masnachol na hurio’r delyn i drydydd person. Os yw’r Huriwr yn dymuno i’r delyn gael ei ddefnyddio gan unrhyw berson na enwir yn y Cytundeb hwn, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Telynau Teifi.

11. Cedwir Telynau Teifi'r hawl i derfynu’r Cytundeb Hurio os:

yw’r Huriwr yn methu taliad hurio ar y dyddiad pan fo’n ddyledus;

neu

os yw’r Huriwr yn torri unrhyw amod yn y Cytundeb Hurio hwn.

Os terfynir y Cytundeb, yr Huriwr fydd yn gyfrifol am ddychwelyd y delyn i Telynau Teifi yn Llandysul o fewn 7 diwrnod o derfynu’r Cytundeb. Os oes rhaid i Telynau Teifi drefnu adfeddiannu’r delyn, tynnir y gost o adfeddiannu allan o’r ernes. Yn ychwanegol, bydd dyled yr Huriwr i Telynau Teifi yn cwmpasu’r gost hurio ar gyfer y cyfnod llawn gytunwyd arno ym mharagraff 1.

Arwyddwyd .............(Huriwr) Dyddiad .......................

Arwyddwyd..............(Telynau Teifi) Dyddiad .......................

Objective 1 Logo