Telynau Teifi

Croeso i Telynau Teifi, y ganolfan arbenigol yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu telynau.

Mae ein cartref yn Llandysul yng nyffryn gwyrddlas afon Teifi, lle mae persain sisial yr awel a bwrlwm afieithus y dwr yn atseinio canu cyfareddol ein hofferynnau.

Gwrandewch ar sain cyfoethog ac unigryw ein telynau: :
Band Llydan (MP3 2.2Mb) cliciwch yma
Band Cyfyng (MP3 600Kb) cliciwch yma

Mae Telynau Teifi yn gwmni bach gydag enw mawr. Dan arweiniad Allan Shiers, ein gwneuthurwr telynau sy'n fawr ei fri, mae ein tîm o grefftwyr dawnus yn priodi crefftwaith traddodiadol â thechnoleg dylunio blaengar er mwyn cynhyrchu telynau sydd â lleisiau melys dros ben.

Mi wnawn ni'n gorau glas i'ch cynorthwyo chi i wneud y dewis gorau posib wrth brynu neu hurio telyn. Yn prynu telyn am y tro cynta, neu'n delynor profiadol sydd am droi'ch llaw at offeryn newydd, yna bydd ein harbenigwyr yma i roi canllaw gofalus i chi.

Pêr sain tannau Telynau Teifi.

Objective 1 Logo