Cwestiynau Cyson
Mae gan Allan Shiers dros 30 mlynedd o brofiad fel gwneuthurwr telynau ac arbenigwr ar atgyweirio - does dim llawer dyw e heb ei weld! Dyma rai o'r cwestiynau sy'n cael eu holi'n gyson:
H: Mae pobol yn sôn bod sain y delyn yn bwysig. Am beth ddylen i fod yn gwrando?
A: Mae gan bob telyn ei sain ei hun, sy'n gyfuniad o'r cynllun a'r gwneuthuriad gwreiddiol, y broses aeddfedu naturiol, a faint o ofal mae'r delyn wedi cael. Weithiau bydd y telynau mwya annisgwyl yn llawn sain bendigedig a chynnes. Mae telynau da yn canu.
Fel llinyn mesur, gwrandewch am lyfnder dros amrediad cyfan y delyn. Mae rhai telynau yn atseinio tua'r gwaelod ac yn tincian tua'r top. Gall rhai telynau swnio'n fendigedig naill ben a'r llall, ond yn fflat yn y canol. Os ydych chi'n chwilio am delyn, profwch cymaint ag y gallwch, a chofiwch gael rhywun arall i'w chanu wrth i chi wrando o bell - mae telynau yn swnio'n wahanol iawn ar draws ystafell. Y peth pwysica yw eich bod chi'n caru'r sain a bod yr offeryn yn ymateb i'r ffordd fyddwch chi'n ei ganu.
H: Beth yw Gwddwg Dirdro?
A: Y Gwddwg yw rhan grom y delyn sy'n mynd o ben y golofn i ben y seinfwrdd. Dyma lle mae top y tannau yn cael eu dal, a lle mae unrhyw ddyfais hanner tôn yn eistedd. Mae tensiwn rhyfeddol yn y delyn (bron i dunnell), felly yn naturiol mae'r Gwddwg a'r cafn yn ysu am gael dod ynghyd er mwyn lleddfu ar y tensiwn hwnnw. Her y gwneuthurwr telynau yw sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd.
Gan fod y tannau ynghlwm wrth ochr y Gwddwg (yn hytrach na thrwy ganol y Gwddwg fel sydd ar delynau o Paraguay), gall y Gwddwg ddechrau symud ar ôl amser. Gall hyn ddifrodi'r mecanwaith sy'n rhedeg drwy Gwddwg telynau pedal, ac yn y pendraw gall hyn olygu nad yw'r mecanwaith hanner tôn bellach yn cyffwrdd â'r tannau. Yn yr achosion mwya eithafol, bydd y Gwddwg yn ildio yn yr ymdrech unochrog hon, ac yn chwalu'r delyn. Mae arwyddion cynnar o hyn yn dueddol o ymddangos tua canol y Gwddwg (o gwmpas F/G canol ar delyn gyngerdd).
H: Pam fod fy nhelyn i'n dirgrynu?
A: Mae pob telyn yn dueddol o dirgrynu neu glecian - maen nhw'n offerynnau mawr, gyda nifer o ddarnau sy'n symud, ac wedi eu hadeiladu i atseinio. Os yw telyn yn chwyrnu neu glecian fe all fod cwlwm styfnig neu dant wedi ei wisgo fod ar fai, ond fe all hyn hefyd fod yn arwydd o broblemau eraill. Bydd y camau canlynol yn eich helpu i ddatrys i mater:
- Liferi/llafnau hanner tôn - sicrhewch nad yw'r rhain yn rhydd, a'u bod yn rhoi digon o le i'r tant symud a rhoi sain clir
- Ebeillion - dyma'r pinnau sy'n eistedd o dan y bolltiau tiwnio ac uwchben y llafnau hanner tôn. Gwnewch yn siwr bod y rhain yn dynn yn y Gwddwg
- Tannau - weithiau dyw'r tannau ddim yn eistedd yn hollol gywir ar ebeillion, neu fe all y pen â'r cwlwm chwyrnu yn erbyn y cafn. Gwnewch yn siwr nad oes unrhyw dant wedi treulio neu ddechrau edrych yn flewog - bydd hyn yn llesteirio'r sain
- Pedalau - sicrhewch bod llewys y pedalau wedi eu gosod yn dynn, a bod y ffelt mewn cyflwr da
- Traed ac olwynion - gwnewch yn siwr nad yw'r olwynion ar y gwaelod yn rhydd.
H: Rwy'n gweld llawer o hen delynau Erard ar werth, dim ond bod angen ailosod y tannau. Ydy prynu un yn syniad da?
A: Byddwch yn wyliadwrus iawn - os yw telyn wedi bod heb dannau neu ei chadw mewn tiwn ers peth amser, y tebygolrwydd yw na fydd hi'n gallu dal y tensiwn os caiff hi dannau newydd nawr. Dylech bob tro brynu telyn oddi wrth rhywun all roi syniad da i chi o'i hanes, sut mae wedi cael ei chanu, lle mae wedi cael ei chadw, sut mae wedi cael ei chludo, a phwy fu'n rhoi gwasanaeth iddi. Trwy ofyn y cwestiynau hyn fe allwch chi osgoi camgymeriadau drud.
