Cefndir Telynau Teifi - Y Delyn a Chymru

Allan Shires

Mae telynau yn bwysig iawn yn niwylliant Cymru. Mae etifeddiaeth y delyn wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn ein hanes, a does dim dwywaith mai'r delyn yw ein hofferyn cenedlaethol.

Gyda'r etifeddiaeth werthfawr hon ar flaen ein meddyliau, mae Telynau Teifi yn bwriadu sicrhau bod yr hen grefft o gynhyrchu telynau yn cael eu cadw'n fyw - ac yn llewyrchu - yng Nghymru, cartref y delyn.

Yn gwmni bychan llawn brwdfrydedd dros y delyn, sefydlwyd Telynau Teifi gan wneuthurwr telynau Allan Shires, gyda chefnogaeth arianol Amcan Un a Chronfa Adfywiad Lleol Cyngor Ceredigion. Fe wyddom ni mai elfen bwysicaf unrhyw delyn yw ei sain, ac felly ryn ni wedi buddsoddi mewn crefftwaith traddodiadol a dulliau technolegol sy'n torri tir newydd er mwyn cynhyrchu offerynnau â lleisiau gogoneddus.

Mae Telynau Teifi siarad drosto'u hunain. Maen nhw'n berchen ar sain nodweddiadol - sy'n anferthol, cyfoethog, a chynnes, ac â childant soniarus. Mae sut mae'r offerynnau yn ymateb, ynghyd â gloywder a dyfnder y sain, wrth fodd y telynorion sydd wedi canu'n telynau.

Allan ShiresOnd mae'n rhaid i'r sain fod yn gyson os yw am gadw'i fawredd. Ryn ni ond yn defnyddio deunyddiau sydd wedi eu dethol yn benodol er mwyn gwneud telynau sy'n ddibynadwy a digyfnewid. Offerynnau cadarn sy'n barod i weithio yr un mor galed â chi.

Dymuna Telynau Teifi bod telynorion selog ym mhoban yn gallu manteisio ar weledigaeth a dulliau unigryw y cwmni, sydd wedi asio technegau traddodiadol â gweledigaeth a dulliau technolegol arloesol wrth fynd ar drywydd y delyn berffaith.

Objective 1 Logo